Eglwys Bresbyteraidd Cymru – Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid



Yüklə 16,66 Kb.
tarix30.04.2018
ölçüsü16,66 Kb.
#40879



Coleg y Bala,

Ffordd Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RY

01678 520565

info@souledoutcymru.net

www.souledoutcymru.net

www.colegybala.org
Helo!

BYW A DWEUD gyda Graham Daniels

Dydd Sadwrn Tachwedd 29, 2014 // Eglwys Crist, Y Bala
Roeddem am i chi wybod am ddiwrnod o hyfforddiant efengylu cyffrous sydd gennym wedi’i drefnu, gyda Graham Daniels! Mae Graham yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Christians in Sport ac yn aelod o Staff The Round Church yn St Andrew the Great (StAG), Caergrawnt. Mae Graham hefyd yn arwain cenadaethau mewn eglwysi a phrifysgolion, ac yn ei amser sbâr mae’n Gyfarwyddwr gyda Chlwb Pel-droed Cambridge United!
Byw a Dweud

Ond uwchlaw pob dim, mae gan Graham angerdd i rannu Iesu gydag eraill, yn ogystal â helpu Cristnogion i gael eu harfogi a’u hannog i fyw a dweud newyddion da'r efengyl o ddydd i ddydd gyda’r bobl o’u cwmpas.


Felly yn ei ddull ysbrydoledig a difyr arferol, bydd Graham yn rhoi anogaeth, dysgeidiaeth Feiblaidd, a thwr o help ymarferol ar sut i rannu ein ffydd gydag eraill, felly mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych!
Dod o’r De?

Er mwyn helpu rhai ohonoch chi sy’n byw yn y De i ddod i Byw a Dweud, rydym yn bwriadu trefnu bws a fyddai'n cyrraedd y Bala ar y nos Wener ac yn gadael am y De eto ar ôl i'r diwrnod orffen ar brynhawn Sadwrn. Byddai tâl ychwanegol bychan am y Gwely a Brecwast, felly rhowch wybod os hoffech roi eich enw i lawr ar gyfer y bws.


Crèche

Os oes yna ddiddordeb, rydym hefyd yn bwriadu cynnig crèche gydol y diwrnod, felly plîs rhowch wybod i ni mor fuan â phosibl os hoffech wneud defnydd o’r ddarpariaeth yma, er mwyn i ni fedru trefnu’n iawn.


Archebwch eich lle!

£19 fydd cost y diwrnod, gan gynnwys cinio yng Ngholeg y Bala. Ond os byddai'n well gennych ddod â'ch pecyn bwyd eich hun, mae croeso i chi wneud hynny; £13 fyddai cost y diwrnod wedyn. Cofiwch hefyd os mae mwy nag un person mewn addysg yn mynychu o’r un teulu, mae’r ail neu trydydd person yn cael dod am hanner pris!


Mae’n bosib lawrlwytho’r ffurflen cofrestru o souledoutcymru.net a’i yrru nôl atom trwy’r post neu ebost, felly

gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â ni am ddiwrnod arbennig gyda'n gilydd!


Edrych ymlaen i weld chi yna!

Meryl, Owain, Siân a’r tîm yng Ngholeg y Bala



Hoffwch / Dilynwch ni

@souledoutcymru @ColegyBala #bywadweud





Coleg y Bala,

Ffordd Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RY

01678 520565

info@souledoutcymru.net

www.souledoutcymru.net

www.colegybala.org

Hello!


LIVE AND TELL with Graham Daniels
Saturday November 29, 2014 // Christ Church, Bala
We wanted to let you know about an exciting evangelism training day we’ve got planned, with Graham Daniels! Graham is currently General Director of Christians in Sport as well as an Associate Staff member of The Round Church at St. Andrew the Great (StAG), Cambridge. Graham also regularly leads evangelistic church and university missions and in his spare time is also a Director of Cambridge United Football Club!
Live and Tell

But above all else, Graham is passionate about sharing Jesus with others, as well as helping other Christians to be equipped and encouraged to live and tell the good news of the gospel from day to day with those around them. So in Graham’s usual inspiring and engaging way, he’ll provide encouragement, insightful Biblical teaching and lots of practical help on how we can effectively share our faith with others, so it looks set to be a great day!


Coming from the South?

In order to help those of you living in the South to come to Live and Tell, we plan to organise a bus, which would arrive in Bala on the Friday evening and leave for the South again after the training has finished on Saturday afternoon. There would be a small additional charge for the Bed and Breakfast, so do let us know if you’d like to put your name down for this bus service.


Crèche

If there’s interest, we also intend to have some crèche facilities available throughout the day. Please make a note on the booking form if you’d like to use this service, so we can make the necessary arrangements.


Book your place!

The cost for the day, including lunch in Coleg y Bala will be £19. But if you’d rather bring your own packed lunch, you’re welcome to do so. The cost for the day would then be £13. And remember, if there’s more than one person in education attending from the same family, the second and third person gets to come for half price!


The booking form can be downloaded from souledoutcymru.net and can be returned to us via post or email, so do make sure you join us for this amazing day together!
Looking forward to seeing you there!

Meryl, Owain, Siân and the team in Coleg y Bala




Like / Follow us



@souledoutcymru @ColegyBala #liveandtell
Yüklə 16,66 Kb.

Dostları ilə paylaş:




Verilənlər bazası müəlliflik hüququ ilə müdafiə olunur ©www.genderi.org 2024
rəhbərliyinə müraciət

    Ana səhifə